Newyddiadurwr - Newyddion Ni (EXTEND)
MANYLION Y SWYDD
BAND Y SWYDD: BAND C
MATH O GONTRACT: 9 mis. Cytundeb cyfnod penodol, (35 awr yr wythnos) Llawn amser tan 26/03/2027
ADRAN: Newyddion Ni – Adran Newyddion BBC Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd
CYFLOG: £27,600 - £32,000 yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
BBC EXTEND
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais ar gyfer y swydd hon, dylech chi nodi eich bod yn fyddar, yn anabl neu’n niwrowahanol ac mae’n rhaid i chi fodloni naill ai y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu'r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych chi’n gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych chi nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau ac amhariadau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym ni wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â [email protected].
Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni. Os byddwch chi’n llwyddo yn eich cais am y swydd hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch chi, byddwn yn gweithio gyda chi i roi eich addasiadau ar waith.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend, ewch i dudalen we BBC Extend. (EXTEND code: EX2324).
PWRPAS Y SWYDD
Wyt ti awydd bod yn gyflwynydd a gweithio yng nghanol cyffro newyddion Cymru a’r byd? Wel, dyma dy gyfle di! Mae’r rhaglen newyddion i blant a phobl ifanc Newyddion Ni, yn chwilio am gyflwynydd newydd i rannu pob math o straeon - adloniant, yr amgylchedd, chwaraeon, selebs, a phrif benawdau’r dydd.
Rydyn ni’n chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â’r tîm. Fe fydd y gwaith yn amrywiol iawn – yn cyflwyno’r rhaglenni, yn gohebu ar straeon ac yn creu deunydd creadigol ar gyfer platfformau digidol. Mae’r prif dasgau yn cynnwys helpu i baratoi’r rhaglenni, ysgrifennu a darlledu, dod o hyd i straeon gwreiddiol ac awgrymu dulliau o droi syniadau yn eitemau creadigol ar gyfer pob platfform.
Mae oriau gwaith yr adran yn hyblyg, ac o bosib yn cynnwys gwaith ar y penwythnosau.
Yn ogystal â’r ffurflen gais, gofynnwn i chi anfon fideo hyd at funud o hyd ohonoch yn cyflwyno eich hun ac yn egluro pam eich bod am wneud y swydd hon.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
- Y gallu i gyflwyno a throsglwyddo straeon mewn ffordd syml a brwdfrydig
- Syniadau creadigol ar sut i gyfleu gwahanol straeon
- Awydd i ddatblygu sgiliau newyddiadurol ac i ddeall ystyriaethau golygyddol
- Y gallu i ddatblygu cysylltiadau newydd a chreu perthynas dda gydag ysgolion a mudiadau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
- Awydd i ddatblygu sgiliau technolegol a defnyddio meddalwedd yn effeithiol i greu pecynnau ac eitemau ar blatfformau digidol
Byddwn yn cynnig hyfforddiant ymhob agwedd o’r gwaith i’r ymgeisydd llwyddiannus.
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.
Disclaimer
This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.
Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.
Before your start date, you may need to disclose any unspent convictions or police charges, in line with our Recruitment policy. This allows us to discuss any support you may need and assess any risks. Failure to disclose may result in the withdrawal of your offer.
For any general queries, please contact: [email protected]
We are unable to accept applications via CV and only applications made online will be considered. Please click on the APPLY NOW button to proceed with your application.